Cwrdd â WNO

Lydia Abell

Fiola Tutti

Mae Lydia yn fiolyddes sy’n byw yng Nghaerdydd ac ymunodd ag Opera Cenedlaethol Cymru yn 2020. Darllenodd Lydia Gerddoriaeth yn Emmanuel Colelge, Cambridge, a chwblhaodd ei gradd meistr yn y Royal Academy of Music, gan astudio gyda Martin Outram. Mae hi hefyd wedi derbyn hyfforddiant gan gerddorion gan gynnwys Lawrence Power, Christoph Richter, ac aelodau o bedwarawdau llinynnol Hagen, Takács ac Endellion.

Cyn hynny, roedd gan Lydia Gymrodoriaeth Cerddoriaeth Siambr CAVATINA yn yr Academi Gerdd Frenhinol 2016-18. Mae ei huchafbwyntiau’n cynnwys ennill Cystadleuaeth Cerddoriaeth Siambr Ryngwladol Orlando 2017, perfformio yn Neuadd Wigmore, a gyda Chamber Music Seland Newydd. Mae Lydia wedi rhoi perfformiadau ar draws Ewrop ac mae ei pherfformiadau i’w clywed ar y recordiad Stravinsky: A Soldier’s Tale, dan arweiniad Oliver Knussen, sy’n cynnwys cerddoriaeth gan Stravinsky, Birtwistle a Maxwell Davies.

Roedd yn anrhydedd i Lydia roi’r premiere byd o waith olaf Syr Peter Maxwell Davies, Movement for String Quartet, yn ei wasanaeth coffa yn St John’s Smith Square ac ar gyfer y darllediad byw ar BBC Radio 3.