Cwrdd â WNO

Maia Broido

Feiolin Gyntaf Tutti

Ganwyd Maia yn St Petersburg. Cwblhaodd ei Gradd Baglor mewn Perfformio’r feiolín yn y dan law Mayumi Seiler. Yn flaenorol, cafodd arweiniad gan Feistr Cyngerdd Ffilharmonig Leningrad a Cherddorfa Symffoni Toronto gynt, Yasha Milkis. Cwblhaodd Maia ei Gradd Meistr yn y Mozarteum yn Salzburg a’r Royal College of Music yn Llundain, lle’r enillodd radd Dosbarth Cyntaf. Er mwyn cefnogi ei hastudiaethau, cymerodd Maia ran mewn dosbarthiadau meistr gyda Rainer Schmidt, Menahem Pressler ac Imre Rohmann. Mae Maia’n mwynhau gyrfa brysur fel datgeiniad siambr. Ochr yn ochr â’r pianydd Robin Green, bu’n teithio’n helaeth yn perfformio datganiadau ledled Ewrop a Gogledd America. Mae hi’n perfformio gydag Unawdwyr Siambr Salzburg yn Awstria a Cherddorfa Siambr Salzburg yn ninas Toronto. Cyn ymuno â WNO, perfformiodd Maia hefyd gyda Cherddorfa Ffilharmonig Cleveland, Cerddorfa Simon Bolivar a Cherddorfa Simffoni Toronto. Ymhlith uchafbwyntiau Maia hyd yma gyda WNO y mae cynyrchiadau o Lohengrin, Hänsel und Gretel a Manon Lescaut. Mae hi hefyd yn mwynhau nofio yn y llyn yn y Ffindir, deifio sgwba yn Dubai a phadl-fyrddio yn Hong Kong! Y tu hwnt i WNO, mae Maia yn perfformio ‘Mariachi’ (cerddoriaeth werin Mecsicanaidd) a Tango yn rheolaidd gyda’i ensemble ‘Viva Mexico Mariachi’ sydd wedi’i leoli yn Toronto.