Cwrdd â WNO

Manon Edwards Ahir

Mae Manon wedi bod yn Gyfarwyddwr Cyfathrebu a Marchnata S4C ers 2023.

Yn fwyaf diweddar bu'n Bennaeth Cynllunio a Materion Allanol yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru ar ôl treulio cyfnod fel Pennaeth Newyddion, Cyfryngau a Digidol yn Senedd Cymru, gan oruchwylio'r gwaith o gyfathrebu ac ail-frandio Cynulliad Cenedlaethol Cymru wrth iddo esblygu i fod yn Senedd Cymru. Cyn hynny, bu'n gydberchennog a Rheolwr Gyfarwyddwr yr asiantaeth gyfathrebu ddwyieithog, Mela Media, gan gynrychioli ystod eang o gleientiaid ag arbenigedd yn y sector cyfryngau a darlledu yn y sector preifat a chyhoeddus.

Bu Manon hefyd yn gweithio fel newyddiadurwr a chynhyrchydd cyfresi yn y BBC ym maes materion tramor a chasglu newyddion, gan arbenigo mewn gwleidyddiaeth. Bu'n flaenllaw yn narllediadau etholiad byw'r BBC yng Nghymru yn ystod y degawd cyntaf ar ôl datganoli, ac mae hi wedi ennill gwobr BAFTA Cymru. Mae Manon hefyd wedi gweithio i Brifysgol Caerdydd fel Darlithydd Newyddiaduraeth a Chyfathrebu yn yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant.