
Marianna Metsälampi
Cyfarwyddwr Staff
Astudiodd Marianna Metsälampi gwrs MA mewn Cyfarwyddo Opera yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, ac yn ystod ei chyfnod yna cynorthwyodd gyda chyd-gynhyrchiad WNO a Dubai Opera, Al Wasl. Mae Marianna hefyd wedi cwblhau gradd fel Hyfforddwr Drama a Dysgawdr o Academi Gelfyddydol Turku, lle cafodd gyfle i hyfforddi fel perfformiwr, gwneuthurwr theatr a chyfarwyddwr. Yn ystod ei chyfnod yn Turku, cyfarwyddodd ei hopera gyntaf, La Finta Giardiniera.
Gwaith diweddar: Cyfarwyddwr staff Al Wasl (WNO a Dubai Opera); Cyfarwyddwr Cynorthwyol The Phantom of the Opera (Finnish National Opera); Turandot, Giuditta, Rape of Lucretia (Opera Box, y Ffindir); Cyfarwyddwr Adfywio Giuditta (Opera Box); Cyfarwyddwr The Bear (RWCMD); Die Opernprobe (Kuula Institute, Vaasa, y Ffindir)