Mark Burns
Mae Mark Burns yn gweithio'n helaeth fel Cyfarwyddwr a Chynorthwyydd. Mae'n gweithio'n rheolaidd gyda The Royal Opera, Scottish Opera, Wexford Festival Opera, Royal Academy Opera, Silent Opera, Opera Cenedlaethol Cymru, West Green House a Grimeborn. Mae gan Mark gysylltiad cryf â Gŵyl Ryngwladol Buxton, Mae wedi cyfarwyddo sawl cynhyrchiad yno yn ddiweddar, gan gynnwys Lucio Papirio Dittatore, Tisbe a La Voix Humaine gyda'r Fonesig Felicity Lott. Mae hefyd wedi bod yn Aelod Cyswllt o'r Bwrdd ar gyfer yr ŵyl. Yn fwy diweddar, cynorthwyodd Mark Syr Thomas Allen gyda'i gynhyrchiad clodfawr o Don Giovanni ar gyfer Scottish Opera. Yn ddiweddarach y tymor hwn, bydd Mark yn adfywio cynhyrchiad Silent Opera o Vixen ar gyfer Gŵyl Gelfyddydau Hong Kong.