Cwrdd â WNO

Martyn Ryan

Roedd Martyn Ryan yn gyn Bartner ac yn Brif Swyddog Gweithredu yn Genesis Investment Management, arbenigwr blaenllaw mewn rheoli buddsoddiadau ecwiti Marchnadoedd Newydd. Roedd ei gyfrifoldebau’n cynnwys cyllid, gweithrediadau, rheoli risg, trethiant a strwythuro cynnyrch. Mae'n dal i fod yn un o Ymddiriedolwyr Genesis Charitable Trust. Bellach mae ganddo nifer o rolau anweithredol, ymgynghorol a rolau ymddiriedolwr elusennol.

Cyn ymuno â Genesis yn 1994, roedd yn Brif Swyddog Gweithredu banc ymddiriedolaeth Japan, Chuo Trust International Limited a chyn hynny roedd wedi gweithio mewn swyddi cyllid a bancio buddsoddi yn Kitcat & Aitken, Morgan Grenfell a Schroders, wedi hyfforddi gyda PwC (Coopers & Lybrand bryd hynny) yn 1984.

Mae Martyn yn mwynhau bob math o chwaraeon, yn arbennig rygbi undeb; mae’n gyfarwyddwr Gleision Caerdydd, ac yn Gadeirydd y Welsh Exiles. Mae hefyd yn Gadeirydd Ymddiriedolaeth Tom Maynard ac Ymddiriedolaeth Les Ranbarthol Gleision Caerdydd.

Ganwyd Martyn yng Nghaerdydd a chafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Penarth a Phrifysgol Southampton, ble dderbyniodd radd mewn economeg busnes a chymdeithaseg. Mae wedi cwblhau Rhaglen Rheoli Uwch yn Harvard Business School ac yn Gymrawd i Sefydliad y Cyfrifwyr Siartredig.