Cwrdd â WNO

Mary Condliffe

Bas Tutti

Astudiodd Mary yn y Royal College of Music, Llundain. Bu am ddwy flynedd yn gerddor llawrydd cyn ymuno â WNO.

Ymhlith uchafbwyntiau personol Mary hyd yma gyda WNO mae gweithio gyda Pierre Boulez, Syr Charles Mackerras, Lothar Koenigs a Tomáš Hanus.

Diddordeb Mary y tu hwnt i WNO, yw dysgu: ‘Rwy’n hoffi gweld cerddorion ifanc yn meithrin eu sgiliau i greu a mwynhau eu cerddoriaeth eu hunain.’