Cwrdd â WNO

Mary King

Mae sawl rôl wedi bod yn rhan o yrfa Mary King gan gynnwys perfformiwr, athrawes, hyfforddwr, darlledwr ac awdur. Ymhlith ei huchafbwyntiau perfformio, mae cydweithio ag Oliver Knussen, a chyd-berfformio gyda Simon Rattle yn The Cunning Little Vixen (ROH) a L’enfant et les sortileges. Rhwng 2004 a 2006 bu’n Artist Cyswllt yn English National Opera a bu’n Gyfarwyddwr Lleisiol ar gyfer perfformiadau o MASS gan Leonard Bernstein yng Nghanolfan Southbank Llundain.  Rhwng 2013 – 2018, bu’n addysgu yn y Western Australian Academy of Performing Arts ac ar hyn o bryd mae’n addysgu yn y Royal Academy of Music and ArtsEd. Yn ogystal â hynny, mae’n Ymgynghorydd Talent Lleisiol yn Glyndebourne ac yn ddiweddar fe’i penodwyd yn Bennaeth Astudiaethau Lleisiol Dros Dro yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Ers 2003, mae’n ymddangos ar y teledu fel dadansoddwr arbenigol Canwr y Byd Caerdydd ac mae’n cyflwyno’n rheolaidd ar BBC Radio 3.