
Cwrdd â WNO
Matt Collins
Mae Matt Collins yn gyfansoddwr, aml-offerynnwr, peiriannydd recordio a chynhyrchydd, sydd wedi gweithio'n helaeth yn Ewrop, yr Unol Daleithiau a Dwyrain Asia. Mae wedi perfformio gyda NoFit State, syrcas gyfoes sy'n enwog yn rhyngwladol, a chynhyrchu ochr yn ochr â chynhyrchwyr cerddoriaeth sydd wedi ennill gwobrau Grammy. Ar hyn o bryd, mae'n perfformio a chynhyrchu cerddoriaeth gyda Ransack Dance Company, ac yn cynhyrchu/peiriannu cerddoriaeth ar gyfer Tŷ Cerdd a WNO yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Mae gwaith Matt wedi ymddangos ar nifer o rwydweithiau teledu a radio rhyngwladol yn cynnwys BBC, MTV a KCRW.