Cwrdd â WNO

​Matt Haskins

Mae Matt Haskins yn Ddylunydd Goleuo sydd wedi’i leoli yn Llundain ond yn gweithio’n rhyngwladol. Mae ganddo Radd Dosbarth Cyntaf gydag Anrhydedd mewn Dylunio Goleuo o Rose Bruford College. Goleuodd Haskins gynhyrchiad y West End o Peter Pan Goes Wrong a sioe agoriadol y Royal Opera House o Coraline. Fel dylunydd cysylltiol cafodd brofiadau cofiadwy ar y cynhyrchiad canmoladwy o The Master & Margarite gan Complicite a Cyngerdd Grace Jones yn y Royal Albert Hall.

Gwaith diweddar: Dylunydd Goleuo A Quiet Place (Opera Zuid); Coraline (Opéra de Lille); Don Giovanni (Opera North)