Melissa Gregory
Mae Melissa Gregory, y fezzo-soprano o Awstralia, yn Artist Cyswllt Opera Cenedlaethol Cymru 2023/2024. Graddiodd yn ddiweddar o’r Royal Northern College of Music a’r QueenslandConservatorium. Llwyddodd i gyrraedd rownd derfynol Cystadleuaeth Ganu Ryngwladol Handel yn 2022, enillodd wobr yng Ngwobr JSRB Bel Canto yn 2021 ac enillodd yr ail wobr yng Ngwobr Joyce a Michael Kennedy ar gyfer Canu Strauss. Mae Melissa yn Artist Samling.
Mae hi wedi perfformio yn Awstralia ac ar draws y byd gyda Glyndebourne, Opera Queensland, Lyric Opera Studio Weimar, Northern Opera Group, The Song Company (Sydney), Côr Queensland, The Bach Society of Queensland a’r Sunshine Coast Chorale Society. O ran cyngherddau, perfformiodd fel unawdydd yn Requiem Verdi fel rhan o Ddathliadau Pen-blwydd Arian Noosa Chorale. Hefyd, perfformiodd yn Nawfed Symffoni Beethoven fel unawdydd alumni gwadd yn y Queensland Conservatorium, Magnificat J S Bach, Dixit Dominus Handel (Sunshine Coast Choral Society), Magnificat in C Schubert, Mass in C Beethoven ac yn Requiem Mozart (Côr Queensland). Ymhellach, roedd Melissa yn unawdydd ym mhefformiad cyntaf Opera Queensland o Mozart Airborne – gwaith a lwyddodd i greu cryn argraff ar adolygwyr ac a enwebwyd ar gyfer dwy wobr Helpmann, yn cynnwys y Cynhyrchiad Dawns Gorau.
Mae ei pherfformiadau opera yn cynnwys Der Komponist a Dryade Ariadne auf Naxos (RNCM a Lisa Gasteen National Opera Programme), Cherubino Le nozze di Figaro, Menyw Minsk Flight a Llwynog EuraiddCunning LittleVixen (RNCM), Orlofsky Die Fledermaus (Lyric Opera Studio Weimar), Hansel Hänsel und Gretel, Dritte Dame Die Zauberflöte a Florence Pike Albert Herring (QC) a Dido Dido and Aeneas (Musica Antiqua Collegi).
Gwaith diweddar/y dyfodol: ensemble lleianod Dialoguesdes Carmélitesa Chorws L’elisir d’amore (Glyndebourne Summer Festival).
Perfformiadau WNO y dyfodol: Lleian Nyrsio Il trittico, unawdydd yn Chwarae Opera YN FYW a chyngherddau Opera Gala.