Cwrdd â WNO

Molly Barker

Astudiodd Molly amaethyddiaeth cyn gweithio fel ymgynghorydd fferm yn Ardal y Copaon. Yn ddiweddar, graddiodd gyda gradd meistr o’r Royal Northern College of Music, ac ar hyn o bryd, mae'n rhannu ei hamser rhwng gweithio yng Nghorws Opera North, ac astudio yn y National Opera Studio ar eu rhaglen Artistiaid y Dyfodol. Mae Molly yn gantores Brydeinig-Bajan falch, ac mae'n angerddol am ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o gerddorion. Mae'n gweithio fel llysgennad ar gyfer rhaglen Braenaru y Royal Northern College of Music gan roi gweithdai, arweiniad a chefnogaeth i bobl ifanc o gefndiroedd gwahanol.