Cwrdd â WNO

Morgana Warren-Jones

Yn ddiweddar, enillodd Morgana Wobr Frederic Cox am Ganu a Gwobr Kennedy Strauss yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd, lle mae’n fyfyriwr ysgoloriaeth ar gwrs Diploma Ôl-radd, dan nawdd Hilary Summers. Fe’i ganwyd ym Mangor. Yn y gorffennol, astudiodd Gerddoriaeth ym Mhrifysgol Leeds, ynghyd â Llais yn y Conservatoire de Strasbourg. Yn ystod ei chyfnod yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd, mae Morgana wedi perfformio rhan Marcellina yn The Marriage of Figaro, Medoro yn Orlando a Mercédès yn Carmen. Yn ddiweddar, perfformiodd Morgana yn Rückert-Lieder gan Mahler yng Nghadeirlan Llanelwy (NEW Sinfonia), ac ym mis Tachwedd bydd yn perfformio cyngerdd o ganeuon ar gyfer Leeds Leider. Mae Morgana wedi ennill gwobr yr Artist Ifanc yng Ngŵyl Ryngwladol Buxton, ynghyd â gwobr Artist Ifanc Serena Fenwick, mae’n aelod o Academi Glyndebourne, a chymerodd ran yn rhaglen fentora Opera North Chorus. Mae Morgana yn arwain côr cymunedol yn Eccles a hefyd mae’n arwain gweithdai ar gyfer WNO. Caiff astudiaethau Morgana gefnogaeth hael gan Help Musicians UK ac Ysgoloriaeth Annie Ridyard ar gyfer Mezzo-Sopranos.