Cwrdd â WNO

Nazan Fikret

Astudiodd Nazan Fikret yn y Guildhall School of Music & Drama, mae’n un o gyn Artistiaid Ifanc Rhaglen Britten-Pears ac yn dderbynnydd Bwrsariaeth y Gwobrau Opera Rhyngwladol, ac wedi perfformio rolau i gwmnïau sy’n cynnwys English National Opera, Teatro Real, Nederlandse Reisopera, Glyndebourne a Garsington. Recordiodd Così fan tutte gyda’r Liverpool Philharmonic Orchestra/European Opera Centre, ac yn 2017, cyrhaeddodd restr fer Cystadleuaeth Ganu Ryngwladol Das Lied

Gwaith diweddar: Brenhines y Nos The Magic Flute (Glyndebourne, Garsington Opera, Opera på Skäret); Brenhines y Nos Abracadopera (ENO/SkyTV); Teofane Ottone a Blonde The Abduction from the Seraglio (Opera Teithiol Lloegr); ac Elin Agreed (Glyndebourne).