Cwrdd â WNO

Neil Balfour

Graddiodd Neil Balfour o’r Royal Northern College of Music a’r National Opera Studio. Yn gyn artist Britten-Pears a Concordia, Neil yw’r canwr opera cyntaf i gael ei raglennu gan Ŵyl Glastonbury a’r cyntaf i beatbocsio mewn opera gyda Longborough Festival opera. Mae hefyd wedi perfformio gyda nifer o gwmnïau yn cynnwys Opera Holland Park, English Touring Opera, Mananan Opera a Hull Urban Opera.

Gwaith diweddar: Ibn al-Haytham Al-Haytham’s Light (English Touring Opera); Punch Crocodile (Hull Urban Opera); Mercurio La Calisto (Longborough Festival Opera)