Cwrdd â WNO

Nicola Amery

Mae Nicola yn gyn Gyfarwyddwr Gweithrediadau i Spire Healthcare plc ac mae ganddi dros 30 mlynedd o brofiad proffesiynol mewn swyddi Uwch-swyddog Gweithredol a swyddi Anweithredol, yn bennaf ym maes gofal iechyd ac addysg. 

Ar ôl cyfnod llwyddiannus mewn cyfrifiadureg gofal iechyd, treuliodd Nicola naw mlynedd yn rhedeg ysbytai annibynnol i Cygnet Healthcare a Nuffield Hospitals.  Yna, ymunodd â'r Board of Leadership Trust ond fe'i darbwyllwyd hi i ddychwelyd i ofal iechyd ac yn 2007, symudodd i Gaerdydd fel Cyfarwyddwr Ysbyty i Spire Healthcare a oedd newydd ei ffurfio (Ysbytai BUPA gynt).  Yn ystod ei daliadaeth o saith mlynedd, bu iddi hefyd gadeirio Cymdeithas Gofal Iechyd Annibynnol Cymru a gwasanaethodd ar gyrff cynrychiolwyr a llywodraethol eraill, yn cynnwys Fforwm Ansawdd a Diogelwch Cymru.   Yna, ymunodd â Bwrdd Arwain a Rheoli Cymru a dod yn Llywodraethwr ac Is-Gadeirydd Prifysgol Metropolitan Caerdydd.

Ganwyd a magwyd Nicola yng Nghaerfaddon.  Symudodd ei theulu i dde Cymru yn y 1970au hwyr a chwblhaodd ei haddysg yng Ngholeg Crosskeys.  Graddiodd gyda gradd ieithoedd modern o Brifysgol Birmingham a threuliodd gyfnod hefyd yn Ysgol Fusnes Stanford yng Nghaliffornia.  Bellach, mae hi'n Ymgynghorydd Busnes ac yn parhau i wasanaethu ar Fwrdd Llywodraethwyr Prifysgol Metropolitan Caerdydd ac yn cadeirio'r Pwyllgor Tâl a'r Pwyllgor Adnoddau.