Cwrdd â WNO

Paul Daniel

Paul Daniel oedd Cyfarwyddwr Cerddoriaeth Orchestre National Bordeaux Aquitaine o 2013-2021. Bu yn yr un swydd yn y West Australian Symphony Orchestra a’r Royal Philharmonic Orchestra of Galicia. O 1997 i 2005 roedd yn Gyfarwyddwr Cerddoriaeth English National Opera; o 1990 i 1997 roedd yn Gyfarwyddwr Cerddoriaeth Opera North ac yn Brif Arweinydd yr English Northern Philharmonia; ac o 1987 i 1990 roedd yn Gyfarwyddwr Cerddoriaeth yr Opera Factory. Ymhlith ei waith opera y mae ROH Covent Garden, La Monnaie, Bavarian State Opera Munich, Zürich, Deutsche Oper Berlin, Oper Frankfurt, Opéra National de Paris, Teatro Real Madrid, y Metropolitan Opera, Tokyo, a Gŵyl Bregenz. Bu’n gweithio gyda cherddorfeydd blaenllaw ledled y DU, Ewrop ac America. Gwobrwywyd CBE iddo yn rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd yn 2000.