Cwrdd â WNO

Peter Brathwaite

Astudiodd Peter Brathwaite, y bariton a anwyd ym Manceinion, ym Mhrifysgol Newcastle, International Opera School y Royal College of Muisc ac Operastudio Flanders. Yn ogystal â pherfformio yn y DU ac yn rhyngwladol, mae Peter yn ysgrifennu a chyflwyno i BBC Radio 3. Bydd ei lyfr cyntaf yn cael ei gyhoeddi gan Getty Publications yn 2023.

Gwaith diweddar: Perfformiadau byd cyntaf The Little Lives gan Ann Cleare (Munich Biennale); The Time of Our Singing gan Kris Defoort (La Monnaie, Brwsel); Wolf Witch Giant Fairy gan Little Bulb (Royal Opera House - enillydd Gwobr Olivier); The Knife of Dawn gan Hannah Kendall, The Lost Thing gan Jules Maxwell (Royal Opera House)