Cwrdd â WNO

Rebecca Tong

Rebecca Tong yw Arweinydd Preswyl y Jakarta Simfonia Orchestra a Chyfarwyddwr Artistig a Chyfarwyddwr Cerddoriaeth yr Ensemble Kontemporer. Rebecca oedd enillydd cystadleuaeth agoriadol La Maestra yn 2020, a’i gynhaliwyd ym Mharis, lle y cafodd hefyd yr ARTE Prize a Gwobr y French Concert Halls & Orchestras. Y mae hefyd yn ddiweddar wedi cyflawni dwy flynedd fel Cymrawd Iau mewn Arwain yn y Royal Northern College of Music a chyn hynny astudiodd yn y Cincinnati Conservatory of Music.

Gwaith diweddar: Orchestre national de Lyon, Polish National Radio Symphony Orchestra, Ulster Orchestra, Orchestre de Paris, Philharmonia Orchestra, Royal Liverpool Philharmonic Orchestra a BBC Philharmonic Orchestra