Cwrdd â WNO

Rebecca Totterdell

Ail Feiolin Tutti

Astudiodd Rebecca yn yr Escuela de Música Fama ym Madrid o 2000 hyd 2006.

Cyn ymuno â WNO, bu Rebecca’n gweithio am saith mlynedd yn gerddor llawrydd yn Llundain a’r cyffiniau gyda’r London Philharmonic Orchestra, City of Birmingham Symphony Orchestra,  English National Opera, English National Ballet, Bournemouth Symphony Orchestra, Royal Northern Sinfonia, a cherddorfa’r Royal Opera House. Hefyd, bu’n dysgu’r feiolín mewn sawl ysgol, yn cynnwys ysgol Iau'r Guildhall.

Un o uchafbwyntiau personol Rebecca yn WNO hyd yma oedd y daith i Savonlinna, y Ffindir yn fuan wedi iddi ymuno â’r Cwmni: ‘roedd chwarae cerddoriaeth Verdi a Puccini mewn castell tylwyth teg ar ynys ar lyn yn yr heulwen yn arbennig iawn.’ Ond mae hi hefyd yn gwerthfawrogi’r cysylltiadau cerddorol a wnaeth gyda’i chyfeillion: ‘Yn y sioeau a’r ymarferion  y chwaraewn ynddynt – mae ‘na eiliadau bob amser o ryngweithio cynnil gyda’r cerddorion, ac mae’n fraint enfawr i gael bod yn rhan o hyn bob dydd.’

Y tu hwnt i WNO, mae Rebecca yn dysgu’r feiolín yn adran iau Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a hi yw mentor allgymorth yr adran linynnol: ‘Dwi wrth fy modd yn gweithio gyda phlant a myfyrwyr a cheisio denu pobl i fyd cerddoriaeth glasurol am y tro cyntaf!’  Mae Rebecca’n athro Zen Yoga trwyddedig ac mae hi wedi cynnal Nomad Yoga dros y blynyddoedd diwethaf. Llwyddodd i ddod â phobl (prin bod eu llwybrau’n croesi)

o wahanol adrannau yn WNO at ei gilydd ar gyfer dosbarthiadau wythnosol yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.