
Robbie Butler
Yn wreiddiol o Iwerddon ac wedi’i leoli yn y DU, mae Robbie yn aelod anrhydeddus am oes y Sefydliad Dylunio Golau a Chynhyrchu. Hyfforddodd yn y Royal Conservatoire of Scotland, ac enillodd wobr Off West End am y Dyluniad Golau Gorau a’r wobr ETC 2015.
Gwaith diweddar: The Makropulos Affair (Opera Cenedlaethol Cymru); Gianni Schicchi (Greek National Opera); They Don’t Pay We Won’t Pay (The Mercury Theatre, Colchester); The Crown Live (Taith UDA); The Gunpowder Plot Immersive Experience (The Tower of London); Young Frankenstein The Musical (Deutsches Theatre Munich ac English Theatre Frankfurt); Our Man In Havana (Watermill Theatre). Mae credydau eraill yn cynnwys gwaith gyda Complicité, The Royal Danish Opera, Teatro Real Madrid, Theatre by the Lake, Hofesh Shechter Company, Polish National Opera a The Lyceum Theatre Edinburgh.