Trosolwg
Wedi i Rosie raddio gyda gradd mewn Cerddoriaeth o Gonville and Caius College Caergrawnt, aeth yn ei blaen i astudio ei Diploma Perfformio ôl-radd dan arweiniad Maria Kliegel yn yr Hochschule fur Musik yn Cologne. Arhosodd yn yr Almaen am nifer o flynyddoedd, gan chwarae gyda Cerddorfa Siambr Cologne a DeutscheKammerAkademie, lle cyfarfu â’i gŵr.
Cyn ymuno â WNO, roedd Rosie ‘wedi ymgynefino’n hapus ym myd cerddoriaeth siambr’ fel Prif Chwaraewr soddgrwth cerddorfa’r Royal Northern Sinfonia, ac aelod o bedwarawd Zehetmair. Teithiai’r byd yn gwneud recordiadau, darllediadau radio, a chwaraeai yn rhai o neuaddau cyngerdd harddaf y byd. Ond roedd cymoedd y de lle cafodd ei magu yn ei dennu yn ôl. Yn 1939 cyrhaeddodd ei thad fel ffoadur o Fienna i Gaerdydd ac roedd y ddinas yn dipyn o dynfa i Rosie.
Yn ychwanegol i amserlen drom WNO, mae Rosie yn mwynhau ymweld â cherddorfeydd eraill, ac yn ystod blynyddoedd diweddar, mae hi wedi arwain adrannau o’r Royal Philharmonic Orchestra, City of Birmingham Symphony Orchestra, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a’r English National Opera ymysg eraill. Mae hi wrth ei bodd yn cael dychwelyd i’w gwreiddiau siambr, yn cynnal amryw o berfformiadau siambr a datganiadau unigol.
Yn ogystal â pherfformio, mae Rosie’n dysgu yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac yn rhoi dosbarthiadau meistr yn flynyddol yn y Cellofest.
Hyd yma ymhlith munudau cofiadwy Rosie yn y WNO mae’r adeg pan lusgwyd hi gan filwyr corniog, mewn arfwisg oddi ar y llwyfan yn William Tell a hithau (‘wedi cychwyn yr agorawdyng nghanol y llwyfan mewn staes llawn a’i gwallt mewn plethi’). Hefyd, cael Syr Bryn Terfel ‘yn marw’ wrth ei thraed yng Ngŵyl Llangollen yn ystod perfformiad o Tosca.