
Ryan Vaughan Davies
Astudiodd y tenor o Gymru Ryan Vaughan Davies yn yr Academi Gerdd Frenhinol, y Coleg Cerdd Brenhinol a’r Royal Northern College of Music, ble daeth yn Artist Cyswllt yn ddiweddar. Yn 2024 enillodd Gystadleuaeth Cantorion Cymru. Ar hyn o bryd mae’n Artist Jette Parker yn y Tŷ Opera Brenhinol (ROH).
Mae ei uchafbwyntiau diweddar yn cynnwys: Gastone/ Alfredo (cover) La traviata, Nathanael Les Contes d'Hoffmann, Borsa Rigoletto, Ruiz Il trovatore, Beppe (cover) I Pagliacci ac El Remendado Carmen, oll i ROH. Mae ei rolau eraill yn cynnwys Tamino (cover) The Magic Flute (WNO), Peppe Pagliacci (Ilford Arts) a Prunier La Rondine (IfOpera).
Mae Ryan hefyd wedi ymddangos yng Ngŵyl Opera Garsington, Gŵyl y Grange, Gŵyl Opera Longborough a Gŵyl Opera Buxton, ac ar daith yn Siapan gyda ROH.
Mewn cyngerdd, ymddangosodd Ryan am y tro cyntaf gyda Proms y BBC yn Il tabarro ac mae wedi ymddangos yn rheolaidd mewn neuaddau cyngerdd yn y DU, gan gynnwys Canolfan Southbank, Snape Maltings, Neuadd Waterfront a Neuadd Wigmore.