Cwrdd â WNO

Sam Jones

Mae Sam Jones yn Brif Weithredwr uchel ei barch sy'n adnabyddus yn fyd-eang am dyfu busnesau gwasanaethau digidol defnyddwyr blaenllaw yn y byd chwaraeon, cerddoriaeth, ac adloniant a darparu twf refeniw ac adenillion cyfranddalwyr rhagorol. Mae ei gyfrifoldebau wedi'i roi yn y safle unigryw o ddatblygu IP i eiconau, artistiaid a sefydliadau megis Adele, Madonna, Rihanna, The Telegraph, NFL, The Premier League, ATP, Turner, ac EMI Classics. Bellach fel Prif Weithredwr Overtier, mae'n goruchwylio menter sydd y gyntaf o'i math i adeiladu a gweithredu'r genhedlaeth nesaf o wasanaethau ffrydio aml-blatfform ledled y byd. Cafodd Sam ei recriwtio i'r rôl hon gan Bruin Sports Capital, a greodd OverTier gydag WPP, ar ôl cyfres o rolau arweinyddiaeth llwyddiannus gyda Warner Music Group, Perform, Telegraph a Bauer Media. Mae hefyd yn ymgynghorydd bwrdd i Bruin ynglŷn â materion yn ymwneud â gwasanaethau uniongyrchol i ddefnyddwyr, technoleg a Chyfalaf Menter.  

Cyn Overtier, yn Bauer Media, roedd Sam yn Brif Swyddog Gweithredol Digidol ac yn Aelod Bwrdd Gweithredol i un o'r cwmnïau cyfryngau preifat mwyaf yn y byd a darlledwr mwyaf Ewrop. Yn ystod ei gyfnod yno, gwelwyd cyflymiad twf sydyn ym musnes clywedol Bauer yn ogystal â chynhyrchu'r cynnyrch clywedol digidol gorau a mwyaf llwyddiannus yn Ewrop. Bu i'r sefydliad hefyd fynd i mewn i farchnadoedd fertigol e-fasnach Cyllid a Chymharu gan fuddsoddi symiau yng nghanol y naw ffigwr mewn cyfres o gaffaeliadau targed.     

Cyn hynny, fel Cyd-sylfaenydd, Aelod Bwrdd, a Phrif Swyddog Gweithredu LoveLive, y busnes dosbarthu fideos cerddoriaeth fyw yn uniongyrchol i brynwyr, hynod lwyddiannus, a grëwyd gan Perform Group, bu i Sam arwain y cwmni i gael eu cydnabod ddwywaith gan The Times fel un o'r mentrau Technoleg sy'n tyfu gyflymaf yn Ewrop yn ogystal â'i dyfu drwy gaffael o Ewrop i UDA. Ochr yn ochr â LoveLive, roedd ar flaen y gad yn nhwf Ewropeaidd platfform fideo o UDA, Kyte (a oedd yn cael cefnogaeth gan Docomo a sefydlwyr Skype) nes y daeth yn rhan o Kit Digital a oedd yn cael ei restru ar NASDAQ.

Fel Rheolwr Gyfarwyddwr y darlledwr chwaraeon, Perform Group, un o lwyddiannau technoleg mwyaf Ewrop (cynnig cyhoeddus cyntaf gwerth $790m), arweiniodd Sam y busnes prynwyr o Premium TV i'w gydsoddiad ag Inform gan arwain at dwf diweddarach fel Perform Group. Ymgymerodd â'r rôl honno ar ôl cyflawni rolau arwain uwch yn Warner Music Group lle'r oedd yn gyfrifol am wasanaethau digidol defnyddwyr ar gyfer dros 200 o artistiaid byd-eang. Cyn gweithio yn Warner, bu i Sam gyd-sefydlu'r busnes cyfryngau cymdeithasol newydd bryd hynny, Xtaster, gan ei dyfu i gael presenoldeb blaenllaw yn y farchnad yn y DU, yr Almaen a'r Eidal. Ar hyn o bryd mae'n byw yn St Albans gyda'i wraig a'u dau o blant.