Astudiodd Sarah yng Ngholeg Cerdd a Drama’r Guildhall gydag Ian Clarke, Philippa Davies a Sharon Williams.
Cyn ymuno â WNO, roedd Sarah’n Is-brif Ffliwtydd gyda Scottish Opera. Cyn hynny, bu’n gweithio’n llawrydd yn Llundain, a chwaraeodd gyda Southbank Sinfonia a hi oedd Prif Ffliwtydd Orquestra do Norte ym Mhortiwgal.
Mae Sarah’n mwynhau repertoire amrywiol ei pherfformiadau gyda WNO: ‘Pleser yw chwarae repertoire operatig mor gywrain, a gweld y gerddorfa’n perfformio mewn cyngherddau ar lwyfannau ar ei phen ei hun hefyd – o berfformiadau mawreddog Mahler yn Neuadd Dewi Sant, i berfformiadau agos atoch Concertos Brandenburg yn rhan o Ŵyl Abergwaun.’
Mae Sarah’n actores ac yn gerddor, felly, y tu hwnt i WNO mae hi’n ymarfer ar gyfer perfformio mewn dramâu, ffilmio ac yn dysgu llinellau.