
Aeth Sarah i Guildhall School of Music and Drama a Royal Northern College of Music.
Un o uchafbwyntiau personol Sarah gyda WNO oedd canu rhan y Cymydog yn Jenůfa, ochr yn ochr â’i ffrind coleg, y diweddar Susan Chilcott.
Y tu hwnt i WNO, mae Sarah’n mwynhau unrhyw beth sy’n ymwneud â chadw’n heini, yn arbennig rhedeg. Mae hi wedi rhedeg sawl ras 5k, 10k, sawl hanner marathon a thri marathon, ac yn frwd dros godi arian at elusen Breast Cancer Now. A hithau’n un o’r aelodau sylfaenol, mae’n eistedd ar bwyllgor Clwb ‘Women Running Penarth’ a Breast Cancer Now Caerdydd a’r Fro. Hi yw Trysorydd y ddau grŵp.