
Sebastian Frost
Derbyniodd Sebastian hyfforddiant yn Ysgol Cerdd a Drama Guildhall. Mae wedi bod yn Ddylunydd Sain ar gyfer ystod o brosiectau unigryw ac amrywiol, o gynyrchiadau theatr yn y West End, ar Broadway ac yn Ewrop i osodweithiau artistig, digwyddiadau cyhoeddus mawr, arddangosfeydd dros dro a pharhaol, lansiadau cynhyrchion, seremonïau gwobrwyo a digwyddiadau byw eraill ar hyd a lled y byd. Mae ganddo berthynas waith agos â chynhyrchwyr offer blaenllaw yn y DU ac yn fyd-eang ac ef oedd y person cyntaf i ddod â dylunio sain seiliedig ar wrthrychau i fyd y theatr gerddorol. Enillodd yr enwebiad Gwobr Tony cyntaf erioed am y Dyluniad Sain Gorau ar gyfer Sioe Gerdd ar Broadway yn 2008 am Sunday In The Park With George.
Gwaith diweddar:A Little Night Music (Leeds Playhouse); Migrations (WNO).