Cwrdd â WNO

Sian Edwards

Astudiodd Sian Edwards yn yr RNCM a chyda'r Athro A.I. Musin yn Conservatoire Leningrad. Hi yw Pennaeth Arwain y Royal Academy of Music. Mae hi wedi gweithio gyda nifer o gerddorfeydd mwyaf blaenllaw'r byd. Mae ei gwaith ym myd opera yn cynnwys ROH, ENO (Cyfarwyddwr Cerdd rhwng 1993-95), Scottish Opera, Glyndebourne, Bayerische Staatsoper, Munich, Theatre an der Wien, Oper Frankfurt, ac Opéra Comique, Paris.

Gwaith diweddar: Arweinydd Duke Bluebeard’s Castle (Scottish Opera); Iolanta (Opera Holland Park); Orpheus in the Underworld (ENO)