
Cwrdd â WNO
Sita Thomas
Dr Sita Thomas yw Cyfarwyddwr Artistig Fio. Mae hi’n Gydymaith Creadigol yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ac yn Artist Cyswllt yn y Theatr Genedlaethol Ieuenctid. Mae Sita wedi ymrwymo i gefnogi datblygiad artistiaid gyrfa gynnar ac yn rhedeg Codi Cymry Creadigol mewn partneriaeth â Chanolfan Mileniwm Cymru, a Rhaglen Cyfarwyddwyr Tamasha. Mae gan Sita PhD o Brifysgol Warwick a Gradd Meistr mewn Cyfarwyddo Symudiad o’r Royal Central School of Speech and Drama. Mae’n un o ymddiriedolwyr Emergency Exit Arts a’r Young Vic. Mae Sita hefyd yn gyflwynydd ar raglen milkshake! Channel 5.