Cwrdd â WNO
Sophie Williams
Graddiodd Sophie yn ddiweddar o’r Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Yn ystod ei hastudiaethau, perfformiodd mewn sawl opera yn cynnwys Dido yn Dido and Aeneas. Mae Sophie yn gantores gorawl frwd hefyd, ac mae wedi bod yn aelod o Gorws Cenedlaethol Cymreig y BBC ac wedi canu gyda Genesis Sixteen, côr sylfaenol The Sixteen, gan weithio gyda Harry Christophers a James Macmillan.