Ganwyd Sophie, y mezzo-soprano Wyddelig, yn Awstralia a bu’n astudio llais yn Victorian College of the Arts ym Melbourne, yn ogystal â’r soddgrwth ym Mhrifysgol Adelaide. Mae wedi gweithio i gwmnïau yn cynnwys Victorian Opera, Opera Australia, ENO a Glyndebourne Festival Opera, ac mae wedi perfformio yn y Tŷ Opera Brenhinol. Ymunodd â Chorws llawn amser WNO yn 2018 ac mae rhai o’i hymddangosiadau rôl cyntaf yn cynnwys Y Chwaer Monitor yn Suor Angelica a Tweedledum | Brat yn Alice’s Adventures in Wonderland.
Tu allan i WNO, mae Sophie yn cynnal stiwdio, lle mae’n addysgu’r soddgrwth, ffidil, piano, canu a theori cerddoriaeth.