Cwrdd â WNO

Stephanie Bradley

Cyfarwyddwr Gweithredol

Mae Stephanie yn gyfrifydd cymwys ac mae ganddi dros 25 mlynedd o brofiad o weithio yn y sector cyhoeddus neu i sectorau nid er elw, ar ôl gweithio yn y sectorau iechyd, heddlu, addysg bellach, a’r sector tai cyn ymuno ag Opera Cenedlaethol Cymru fel y Cyfarwyddwr Gweithredol ym mis Tachwedd 2022.

Mae ganddi brofiad o arwain ar holl agweddau strategol, corfforaethol a gweithredol cyfrifeg a chynllunio ariannol, rheoli trysorlys, risg a sicrwydd, caffael, yswiriant, gwasanaethau digidol a data. Mae Stephanie hefyd wedi bod yn noddwr rhaglen newid diwylliant ar raddfa fawr ac yn arwain ar raglen ffordd newydd o weithio, a oedd yn cynnwys datblygu gwerthoedd newydd a strategaeth Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.

Mae gweithio mewn sefydliad sy’n darparu cyfleoedd i unigolion wella eu hiechyd a’u llesiant drwy fynediad i ddarpariaeth dda yn y celfyddydau yn ennyn angerdd Stephanie. Mae’n destun cyffro iddi fod ynghlwm â holl waith WNO a phrofi holl fuddion opera drwy berfformiadau a gweithio gyda’r gymuned.