Cwrdd â WNO

Steven Crichlow

Ail Feiolin Tutti

Astudiodd Steven yn Vanderbilt University gyda Christian Teal a Gerald Greer, ac yn Arizona State University, ble roedd yn gynorthwyydd addysgu i Dr. Katie McLin, ac enillodd Ddiploma ôl-raddedig o’r Royal Academy of Music gyda Mateja Marinkovic.

Cyn dod i’r DU, gweithiodd Steven yn llawrydd fel feiolinydd yn yr UDA, gan weithio â cherddorfeydd fel y Phoenix Symphony a’r Paducah Symphony. Ar ôl cwblhau ei astudiaethau yn Llundain, gweithiodd fel feiolinydd llawrydd gyda’r Philharmonia, English National Ballet, BBC Philharmonic (ymysg eraill), ac addysgodd yn Adran Iau yr Royal Academy of Music, ble roedd ganddo stiwdio dysgu breifat. Ochr yn ochr â’i waith gyda WNO, mae Steven yn chwarae yn y Project Instrumental a Chineke! Orchestra.

Un o’r perfformiadau operatig sydd fwyaf byw yng nhgof Steven yw chwarae Lohengrin, Wagner gyda Lothar Koenings:

‘Yn yr ymarfer gwisgoedd, roeddwn yn barod ar gyfer gwefr opera a’r hynt a helynt i ddilyn. Ond, nid oeddwn yn barod ar gyfer y marathon o’m blaen! Ar ôl Act Un o opera o’r fath hyd, roeddwn wedi defnyddio fy holl egni! Dysgais lawer o’r profiad, ac rwy’n cofio ar y noson agoriadol roeddwn yn teimlo fel athletwr Olympaidd, a llwyddais i gynnal fy egni drwy gydol y perfformiad, yn ogystal â’r rhai i ddilyn.’

Y tu allan i’w waith gyda WNO, mae Steven yn mwynhau cadw’n heini, treulio amser yn yr haul a chadw ei hun yn brysur gyda chalendr llawn digwyddiadau cymdeithasol.