Cwrdd â WNO

Sue Lefton

Ganed Sue Lefton yn Llundain a hyfforddodd fel dawnsiwr yn The Royal Ballet School a gyda’r cwmni Ballet Rambert. Hyfforddodd hefyd fel actores yn yr Central School of Speech and Drama ac yn L'École Internationale de Théâtre Jacques Lecoq yn Paris. Mae Sue wedi cydweithio gydag Adrian Noble ers dros 20 mlynedd ac mae ei gwaith ffilm yn cynnwys Elizabeth, The Libertines a Miss Potter.

Gwaith diweddar: Coreograffydd Alcina (Wiener Staatsoper); The Magic Flute (WNO); Macbeth (The Metropolitan Opera)