Cwrdd â WNO

Tam Mott

Ail Feiolin Tutti

Treuliodd Tam rai blynyddoedd yn Junior Guildhall tra oedd yn astudio ei arholiadau Lefel A. Aeth ymlaen i astudio Cerddoriaeth yn King's College London, tra roedd yn astudio’r feiolín  yn yr Royal Academy of Music gyda Diana Cummings. Enillodd radd Meistr ac LRAM yn yr Academi, cyn treulio blwyddyn ffurfiannol yn llawn hwyl a phrysurdeb gyda’r Southbank Sinfonia.

Cyn ymuno â WNO, bu Tam yn gweithio’n llawrydd gyda nifer o wahanol gerddorfeydd ledled y DU a threuliodd gyfnod preswyl yn Gyd-Brif 2il Feiolín gyda chwmni Bale St. Petersburg.

Mae Tam wrth ei fodd yn chwarae llawer o’r repertoire: ‘Yn arbennig rhannau prysur yr 2il Feiolín yn operâu Mozart a’r eiliadau yn Puccini (fe wyddoch pa rai...) sydd wir yn gadael i mi fynegi fy nheimladau’n agored!’

Y tu hwnt i WNO, mae Tam yn hoffi ffotograffiaeth ac wrth ei fodd yng nghefn gwlad. Mae’n feiciwr brwd ac yn ystod haf 2017, beiciodd o Brighton drwy Ffrainc a Sbaen i Gibraltar. Yn 2018 fe aeth ar daith gerdded dair wythnos i Nepal ym mynyddoedd yr Himalayas i’r gwersyll cychwyn wrth droed Everest.