Trosolwg
Un o Dundalk, yr Iwerddon, yw Tara Erraught, ac astudiodd yn y Royal Irish Academy of Music yn Nulyn. Ymunodd â Stiwdio Opera y Bayerische Staatsoper yn 2008 ac mae hi wedi bod yn brif unawdwraig breswyl gyda’r cwmni ers 2010. Yn 2013 cyflwnodd llywodraeth Bafaria y Pro meritis scientiae et litterarum i Erraught mewn cydnabyddiaeth o gyfraniad arbennig i’r celfyddydau. Hi yw’r bumed gerddores a’r ieuangaf erioed i dderbyn y wobr flynyddol hon ers ei dechreuad.
Gwaith diweddar: Stéphano Roméo et Juliette (Gran Teatre del Liceu); Hänsel Hänsel und Gretel (The Metropolitan Opera); Carlotta Die schweigsame Frau (Bayerische Staatsoper)
Gwaith i ddod: Despina Così fan tutte (Bayerische Staatsoper); Rosina Il barbiere di Siviglia (Staatsoper Unter den Linden); Alcina Orlando paladino (Münchner Opernfestspiele)