
Tash Chu
Hyfforddodd Tash yn y Central School of Ballet, gan raddio yn 2018 gyda BA (Anrh) mewn Dawns a Pherfformio Proffesiynol. Perfformiodd fel dawnswraig broffesiynol am y tro cyntaf gyda New Adventures, a ffurfiwyd gan Matthew Bourne, gan berfformio yn Romeo a Juliet. Ers hynny, mae wedi dawnsio gyda Ballet Cymru ac mae wedi gweithio’n llawrydd gyda choreograffwyr yn cynnwys Roisin Whelan, Arielle Smith, Marcus J Willis, Liam Riddick a Gemma Payne. Yn ddiweddar, perfformiodd mewn cynhyrchiad newydd o The Wreckers yng Ngŵyl Opera Glyndebourne. Yn 2020, dychwelyd Tash i’r Central School of Ballet i gwblhau ei Gradd Meistr mewn Coreograffi. Fe’i dewiswyd yn un o blith tri o goreograffwyr benywaidd i greu ffilm ddawns fer ar gyfer y prosiect Adventures in Film gyda New Adventures (2020). Cynhwyswyd ei choreograffi mewn nifer o brosiectau cydweithredol, ar blatfformau digidol ac ar y llwyfan, yn cynnwys prosiectau gyda’r Central College of Ballet a’r Coleg Cerdd Brenhinol (2021), Soumik Datta Arts (Silent Spaces, 2021) a Ballet Central (2019)