Cwrdd â WNO

Tom Fetherstonhaugh

Tom Fetherstonhaugh yw Cyfarwyddwr Artistig Fantasia, ac arweiniodd yn y BBC Proms am y tro cyntaf gyda hwy ym mis Awst 2024. Sefydlodd y Gerddorfa yn 2016, ac ers hynny, bu’r Gerddorfa hon yn brysur mewn gwyliau a lleoliadau ar draws y wlad.

Fel Arweinydd Cynorthwyol y Bournemouth Symphony Orchestra rhwng 2022-2024, arweiniodd Tom 70 o berfformiadau, gan gynnwys pum wythnos yng nghyfres prif dymor BSO. Mae wedi perfformio gydag unawdwyr gan gynnwys Alena Baeva, Alim Beisembayev, Julian Bliss, Lucy Crowe, Jess Gillam, Dame Evelyn Glennie, Isata Kanneh-Mason, Sheku Kanneh-Mason, Vadym Kholodenko, Tasmin Little, Jennifer Pike, Laura van der Heijden, Steven Osborne, a Maria Włoszczowska.

Yn ystod y Tymor 2025/2026 mae Tom yn arwain Cerddorfa WNO am y tro cyntaf, ac yn dychwelyd i’r BBC Philharmonic Orchestra, Bournemouth Symphony Orchestra, Britten Sinfonia, Manchester Camerata, National Symphony Orchestra of Ireland, ac Ulster Orchestra. Mae cydweithrediadau diweddar eraill yn cynnwys rhai gyda’r Opera North Orchestra a’r Royal Northern Sinfonia.