
Cwrdd â WNO
Tom Redmond
Trosolwg
Cerddor, cyflwynydd ac addysgwr yw Tom Redmond. Bu’n chwaraewr corn yng Ngherddorfa’r Hallé am dair blynedd ar ddeg, cyn gweithio i BBC Radio 3, lle bu’n cyflwynocyngherddau byw, rhaglenni stiwdio a Proms y BBC. Mae’n creu a chyflwyno cyngherddau rhyngweithiol i’r teulu cyfan ar gyfer cerddorfeydd a gwyliau ar hyd a lled y byd. Mae hefyd yn Brif Weithredwr ar y cyd ac yn Gyfarwyddwr Cerdd yn Ysgol Gerdd Chetham ym Manceinion.
Uchafbwyntiau diweddar: perfformio rolau Romeo a Juliet gyda Cherddorfa Hallé, perfformio fel Chief Adventurer yn My Christmas Orchestral Adventure (Neuadd Frenhinol Albert) a chyflwyno Chwarae Opera YN FYW! (WNO).




