
Tomos Owen Jones
Ar hyn o bryd, mae'r bariton o Gymru, Tomos Owen Jones, yn astudio dan hyfforddiant Adrian Thompson a Jeff Stewart yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, ac yn cael ei gefnogi'n hael gan Ysgoloriaeth Goffa Olwen Phillips. Canodd Tomos ran Gwydion y Dewin yng nghynhyrchiad Stephen McNeff o 2117/Hedd Wyn gydag Opera Ieuenctid WNO. Ers hynny, mae wedi perfformio gyda'r Cwmni fel Count Heinrich yn The Black Spider. Yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, mae wedi perfformio Antonio yn The Marriage of Figaro a The Baritone yn Four Note Opera gan Tom Johnson. Mae Tomos hefyd wedi creu rolau, gan gynnwys Y (The Y Knot, Julia Plaut) a Baritone (Nonsensus, Richard Barnard) gydag Operasonic. Mae Tomos hefyd wedi perfformio Five Mystical Songs, Vaughan- Williams, a Stabat Mater, Dvorak. Mae cyfansoddiadau Tomos wedi cael eu perfformio gan nifer o ensembles, gan gynnwys BBC NOW a Cherddorfa WNO. Mae'n Gyfarwyddwr Cerdd i May Street Opera ac, yn ddiweddar, cafodd arwain Hansel and Gretel (Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru).