Cwrdd â WNO

Tyler Shepherd

Prif Chwaraewr yr Adran Fas Dwbl

Astudiodd Tyler yn Boston Conservatory a Boston University gydag Ed Barker a Dennis Roy, dau aelod o Boston Symphony Orchestra.

Cyn ymuno â WNO, roedd Tyler yn gerddor llawrydd. Bu’n dysgu yn Dallas, Texas (ei dref enedigol) cyn cael ei benodi’n Brif Chwaraewr Bas Chattanooga Symphony & Opera.

Uchafbwynt personol Tyler gyda WNO hyd yma yw cynhyrchiad Tristan und Isolde gyda Lothar Koenigs: ’Dyma oedd fy opera Wagner cyntaf, ac roedd hi’n anodd gen i gredu gymaint y treiddiai’r gerddoriaeth a’r profiad i ddyfnder fy enaid. Creodd y marathon o densiwn parhaus, prydferthwch a drama ddyfnder profiad sydd wedi fy newid am byth. Roedd yr awyrgylch yn  ddwys, yn gythryblus, yn chwyslyd ag yn gwbl gyfareddol.’

Y tu hwnt i WNO, diddordebau Tyler yw coginio, mae’n mwynhau ryseitiau Tex-Mex llawn sbeis yn arbennig. Mae’n mwynhau cyfansoddi, peintio a theithio.