Trosolwg
Mae gan Yvette yrfa hirhoedlog yn y celfyddydau, a ddechreuodd yn y maes cyhoeddi masnachol cyn symud ymlaen i'r sector celfyddydau cymunedol a'r sector noddedig. Mae hi wedi gweithio i sefydliadau celfyddydau annibynnol, Cyngor Celfyddydau Cymru - lle sefydlodd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru - awdurdodau lleol, a Llywodraeth Cymru. Treuliodd dair blynedd yn gweithio ym Mrwsel fel Rheolwr Polisïau Canolfan Cymru a chwaraeodd ran allweddol yn nadleuon Polisïau Diwylliannol yn yr UE cyn dychwelyd i Gaerdydd i ysgrifennu cais y ddinas ar gyfer Dinas Diwylliant 2008. Yna, ymgymerodd â swydd Prif Weithredwr Visiting Arts.
Mae hi wastad wedi canolbwyntio ar waith rhyngwladol ac yn Visiting Arts bu iddi sefydlu prosiect Square Mile yn ogystal â'r prosiect World Cultures Connect. Mae Visiting Arts wedi gweithio ar draws y byd gyda rhaglenni datblygiad proffesiynol targedig yn India, Tsieina, y Dwyrain Canol, Affrica Caribïaidd a'r Môr Tawel. Mae hi'n gyn-aelod o grŵp UK Cultural Diplomacy ac yn gyn Gynghorydd Arweiniol ar Raglen UK Cultural Leadership.
Mae ei gwaith yn Ewrop wedi cynnwys Cadeirio'r gweithgorau ynglŷn â Phreswylfeydd Artistiaid ac Effaith y Sifft Digidol ar Ddatblygiad Cynulleidfaoedd ledled Ewrop.
Mae Yvette yn hyfforddwr a safonwr profiadol, yn fwyaf diweddar ar gyfer cynhadledd Llywyddiaeth yr UE yn Estonia. Mae hi'n athrawes gwadd rheolaidd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.