
Digwyddiadau i aelodau WNO 2024/2025
Fel un o Gyfeillion neu Noddwyr gwerthfawr WNO, gallwch gael mynediad at ddigwyddiadau unigryw ‘y tu ôl i’r llenni’.
Cewch gyfle i gael cipolwg ar ymarferion a chewch gyfleoedd i gyfarfod â thîm WNO a mynd ar deithiau y tu ôl i’r llwyfan ac ati. Isod, nodir y digwyddiadau sydd ar gael ar hyn o bryd. Bydd rhagor o ddigwyddiadau’n cael eu hychwanegu drwy gydol y flwyddyn, felly cadwch eich llygaid ar agor.
Er mwyn archebu lle ar ddigwyddiad aelod bydd angen i chi ddarparu cod arbennig sydd wedi cael ei ddanfon i chi drwy ebost fel rhan o'ch aelodaeth. Oherwydd argaeledd cyfyngedig, mae aelodau yn gallu archebu uchafswm o ddau docyn oni nodir yn wahanol ar y rhestr digwyddiadau.


Bore coffi i aelodau
Dydd Sadwrn 12 Ebrill - Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd
11am - 1pm
Tocynnau: £15
Ymunwch â ni am waith ein cyfarwyddwyr staff amhrisiadwy dros baned o de a darn o gacen. Dan arweiniad Cyfarwyddwr Staff hirdymor y cwmni, Caroline Chaney, bydd y sesiwn hon yn cynnig cipolwg gwirioneddol ar fywyd mewn ystafell ymarfer a’r prosesau sydd eu hangen i ddod a’n hoperâu yn fyw ar y prif lwyfan. Sesiwn Holi ac Ateb i ddilyn.

Cyfarfod â’r archifwyr
Dydd Iau 29 Ebrill a 3 Mehefin – Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd
Tocynnau: £15
Dewch i fwynhau bore yng nghwmni dau o archifwyr gwirfoddol WNO – sef John Richardson ac Ian Douglas. Cewch ddysgu am ein harchif a chewch gipolwg ar ein trefniadau mewnol mewn awyrgylch hamddenol braf. Bydd digon o amser i ofyn cwestiynau a rhannu gwybodaeth. Digwyddiad i grwpiau bach (pedwar o bobl neu lai) yw hwn.
Archebu nawr
29 Ebrill
3 Mehefin

Tu ôl i’r llenni yn siopau Eastmoors
Cewch eich tywys o amgylch ein siopau Eastmoors, Caerdydd, gan aelod o’n tîm technegol a byddwch wrth eich bodd yn cael bod mor agos at ein hamrywiaeth o setiau, propiau a gwisgoedd.
Tocynnau: £20
Nodwch y bydd y teithiau hyn ar gyfer grwpiau llai, a byddant yn cynnwys cludiant yn ôl ac ymlaen o Ganolfan Mileniwm Cymru i’n siopau. Rhaid dringo grisiau i gael mynediad at ein hardaloedd gwisgoedd a phropiau, nid oes lifft ar gael.
I archebu lle ar gyfer y digwyddiad hwn, cysylltwch â ni ar development@wno.org.uk neu ar 029 2063 5000.
Os oes gennych anghenion mynediad neu gwestiynau, cysylltwch â ni ar development@wno.org.uk neu ffoniwch 029 2063 5000.