
Corws Cymunedol
Wedi uno trwy eu cariad at gân, mae Corws Cymunedol Opera Cenedlaethol Cymru yn cynnwys cantorion amatur o bob oed a chefndir.
Ar hyn o bryd rydym yn cynnal dwy raglen Corws Cymunedol, yng Nghaerdydd (Canolfan Mileniwm Cymru) a Llandudno (Venue Cymru).
Mae pob Corws Cymunedol WNO yn cael ei ddwyn ynghyd yn arbennig ar gyfer perfformiad penodol ac yn gwbl agored i gantorion hen a newydd, dim ond i chi gofrestri. Weithiau byddwn yn gofyn i chi glyweld, ond nid bob amser, yn dibynnu ar natur y perfformiad terfynol. Mae hyn yn caniatáu ystod eang o gyfleoedd i fod yn rhan o gymuned WNO, ar wahanol lefelau ymrwymiad ac ar gyfer gwahanol fathau o berfformiad.