Dysgu gyda WNO
Dysgu gyda WNO yw ein rhaglen ysgol bartner, yn cyd-weithio gydag ysgolion yn ne-ddwyrain Cymru i gyflwyno opera, a'u hysbrydoli i ganu bob wythnos. Rydym yn gweithio gyda dau grŵp Blwyddyn 5 neu 6 a'u hathrawon, a'r nod yw nid yn unig annog dosbarthiadau i ganu, ond gwella sgiliau a rhoi profiadau sy'n effeithio ar eu bywyd ysgol yn ehangach.
Nod Dysgu gyda WNO yw:
- Archwilio a symleiddio'r byd opera
- Addysgu technegau canu syml sy'n addas ar gyfer disgyblion oed cynradd
- Cyflwyno sut mae cwmni opera yn gweithio, gan archwilio rolau ar y llwyfan ac oddi ar y llwyfan
- Archwilio straeon a cherddoriaeth operatig
- Cefnogi ac annog gwaith tîm a dysgu ar y cyd
- Cynorthwyo disgyblion i fagu hyder a hunan-barch
- Mireinio sgiliau gwrando disgyblion ac ymateb i ysgogiadau cerddorol
- Rhoi'r hyder i ddisgyblion gymryd risgiau wrth ddysgu
Ysgol Cwm GwyddonMae'n anodd crynhoi mewn geiriau'r holl fuddion. Mae wedi bod yn anferth. Mae wedi ehangu gorwelion y plant. Mae ganddynt ddealltwriaeth well o gerddoriaeth, iaith, emosiynau... y byd...mae wedi cael cymaint o effaith ar ein hysgol. Rydym yn teimlo'n hynod ffodus o fod wedi cael bod yn rhan o gynllun mor rhagorol
Rydym eisiau i'n sesiynau wythnosol fod yn fuddiol i ddisgyblion a staff ysgol, a'r gobaith yw i athrawon gael eu hysbrydoli i gyflwyno dysg yn ôl yn yr ystafell ddosbarth.
Ar gyfer staff dosbarth, nod Dysgu gyda WNO yw:
- Rhoi hyder i aelodau o staff i ddefnyddio eu lleisiau
- Arddangos sgiliau arwain cerddoriaeth rhagorol
- Ehangu geirfa gerddorol aelodau o staff
- Modelu sgiliau a dulliau addysgu
- Cynyddu pecyn cymorth athrawon o sesiynau cynhesu i fyny a gemau i gynorthwyo gyda chanu, symudiad a drama
Yn ogystal â sesiynau wythnosol, rydym hefyd yn cynnig cyfleoedd ehangach i ysgolion, gan gynnwys:
- Cyfle i fynd i un o'n prif berfformiadau (a ddewisir fel priodol ar gyfer y grŵp oedran)
- Sesiynau datblygiad proffesiynol parhaus i athrawon
- Ymweliadau gan aelodau o Gerddorfa a Chorws WNO
- Adnoddau i athrawon ac ystafelloedd dosbarth
- Rhannu perfformiadau i ddisgyblion yn nhymor yr haf
Ysgol Gynradd MillbankRwy'n credu bod y gwasanaeth yn ffordd wych o ddylanwadu ar blant a'u hysbrydoli, mewn ardal lle rhoddir cyfleoedd prin i blant, mae'n rhoi dyheadau i blant efallai nad ydynt wedi'u cael o'r blaen. Ni allaf argymell y rhaglen hon yn fwy nag wyf yn ei wneud yn barod
I gael mwy o wybodaeth am ein rhaglen ysgolion ebostiwch ein cydlynydd ysgolion: schools@wno.org.uk
Mae ceisiadau ar gyfer mis Medi 2023 nawr ar gau.
Mae ein carfan bresennol o ysgolion Dysgu gyda WNO yn llawn.
Prif Gefnogwr - Prosiectau ac Ymgysylltu