O dan 30 oed

Rydym yn credu y dylai opera fod yn hygyrch i bawb, dyna pam fod tocynnau i Opera Cenedlaethol Cymru yn dechrau o £5, gan roi i chi'r cyfle perffaith i brofi ein ffurf gelf wych am bris rhesymol.


O dan 16 oed?

Rydym eisiau annog cenhedlaeth newydd o fynychwyr opera ac felly rydym yn cynnig tocynnau am £5 i bobl ifanc dan 16 oed (yn amodol ar argaeledd). I hawlio'r cynnig hwn, rhaid i chi fod yn mynychu gydag oedolyn sy'n talu am docyn pris llawn. Sicrhewch eich tocyn drwy gysylltu â'r lleoliad o'ch dewis.


O dan 30 oed?

Os ydych rhwng 16-29 oed gallwch fwynhau ein cynyrchiadau pryfoclyd am gyn lleied â £10 (yn amodol ar argaeledd). Dyma gyfle gwych i chi a'ch ffrindiau brofi perfformiadau yn un o'n lleoliadau gwych ledled Cymru a Lloegr.

Noder mai dim ond y rhai hynny rhwng 16-29 oed a all ddefnyddio'r tocynnau o dan 30 oed, ac mae'n bosibl y gofynnir i chi ddangos prawf o'ch oed wrth gasglu eich tocynnau.


Eisiau ymddiddori ym myd opera ond ddim yn gwybod lle i ddechrau?

Ewch i'n tudalen Darganfod Opera i chwalu rhai mythau neu ewch i'n calendr digwyddiadau lle byddwch yn dod o hyd i lu o ffyrdd gwahanol o brofi opera o arddangosiadau digidol, digwyddiadau dewch i ganu, sgyrsiau ac wrth gwrs, perfformiadau opera.


Awydd cymdeithasu?

Ymunwch â'r sgwrs arlein: