Corws y Nadolig
Trosolwg
Corws byd-enwog Opera Cenedlaethol Cymru yn perfformio ochr yn ochr â chantorion o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru i gyflwyno noson wefreiddiol o ganu operatig yng nghanol y ddinas. Capel hardd y Tabernacl yn yr Ais fydd lleoliad cyngerdd a fydd yn rhoi llwyfan i’r lleisiau torfol hyn yn perfformio opera, theatr gerddorol, repertoire cysegredig, traddodiad corawl Cymru a cherddoriaeth Nadoligaidd.
Arweinir gan Gôr-feistr Corws WNO, Freddie Brown a Chyfarwyddwr Cerddoriaeth CBCDC Tim Rhys-Evans.