Clasuron Tsiecaidd Britten, Dvořák, Wagner, Janáček
Mae'r digwyddiad yma wedi gorffenTrosolwg
Perfformir gweithiau gan y cyfansoddwyr o’r Weriniaeth Tsiec Dvořák a Janáček ochr yn ochr â champweithiau gan Britten a Wagner yr Hydref hwn.
Britten Four Sea Interludes o Peter Grimes
Dvořák Biblical Songs
Wagner Prelude a Liebestod Tristan
Janáček Sinfonietta
Perfformir gweithiau gan y cyfansoddwyr o’r Weriniaeth Tsiec Dvořák a Janáček ochr yn ochr â champweithiau gan Britten a Wagner yr Hydref hwn.
Cafodd portreadau môr deniadol Britten o’i opera gyntaf, Peter Grimes, lwyddiant rhyngwladol mawr ar ôl y perfformiad cyntaf yn 1945 tra bod cylch caneuon Dvořák o 1894 yn nodi uchafbwynt y genre. Yn llawn o ymddiriedaeth ac ymroddiad, fe’u cyfansoddwyd i gyd-fynd â geiriau Llyfr Salmau Dafydd.
Mewn cyferbyniad llwyr, mae Sinfonietta tanbaid Janáček yn theatraidd ei natur, yn llawn egni ac optimistiaeth - campwaith byw a ystyrir heddiw yn un o weithiau symffonig gorau'r 20fed ganrif.
Yn cwblhau’r rhaglen, Prelude a Liebestod Tristan gan Wagner. Mae’r ddau ddarn yn amlygu bydoedd mewnol Tristan ac Isolde, y mae eu cariad wedi’i dynghedu o’r cychwyn cyntaf - yr enghraifft eithaf o ramantiaeth.
Bydd Cerddorfa WNO yn perfformio’r rhaglen hon yn Theatr Janáček yn Brno ym mis Tachwedd 2022
Cefnogir gan Mathew a Lucy Prichard
Defnyddiol i wybod
Cyflwynwyd fel rhan o'r Gyfres Caerdydd Glasurol