Caethwasiaeth Fodern Trafodaethau Madam Butterfly
Mae'r digwyddiad yma wedi gorffenTrosolwg
Mae WNO yn cymryd stori Cio-Cio-San fel ysbrydoliaeth ar gyfer cyfres o sgyrsiau digidol yn ystyried ystod eang o bynciau rydym yn dal i fynd i’r afael â nhw yn yr 21ain Ganrif
Mae Cio-Cio-San (Madam Butterfly) yn cael ei thrin fel nwydd sy’n gorfod gweithio i gefnogi ei theulu. Mae hi’n ferch 15 oed fregus sy’n cael ei defnyddio a’i hanghofio. Mae masnachwyr pobl yn fedrus o ran targedu, twyllo a chamddefnyddio pobl fregus yn ein cymuned.
Mae caethwasiaeth yn dal i fod yn broblem yn ein byd ni heddiw. Ni ddaeth i ben gyda Deddf Masnach Caethweision 1807 yn y DU, yn nodi diwedd i’r fasnach caethweision drawsatlantig. Mae ar ein stepen drws, yn cuddio yn ein cymunedau, siopau têc-awê, gwestai, lleoedd golchi ceir a salonau ewinedd ymysg lleoedd eraill.
Yn y drafodaeth hon i godi ymwybyddiaeth, clywch am raddfa a natur caethwasiaeth heddiw, sut i adnabod dioddefwyr a beth allwn ni ei wneud yn ei gylch. Mae Kim Ann Williamson MBE yn arwain y drafodaeth ynghyd â phanel o unigolion sy’n gweithio’n uniongyrchol yn y maes yn ceisio ymladd yn erbyn caethwasiaeth fodern ar bob ffurf, gan gynnwys: Heather Lewis, Prif Gyfarwyddwr Brave Bear Trust; Stephen Chapman, cyn Gydlynydd Gwrth-Gaethwasiaeth Llywodraeth Cymru; Mike Wilkinson, Dirprwy Brif Weithredwr New Pathways; Ben Bruten, Pennaeth Arolygiaeth Safonau'r Asiantaeth Gyflogaeth; Ruth McKie, Soroptomists International Prydain Fawr ac Iwerddon; Richard Tumelty, Heddlu De Cymru; Richard James, Barnados.
Defnyddiol i wybod
Bydd trafodaethau’n para tua un awr
Bydd digwyddiadau byw’n cael eu cynnal dros Zoom - bydd cyfarwyddiadau ymuno’n cael eu hanfon ar ôl ichi gofrestru