The Cunning Little Vixen Janáček
Archived: 2019/2020Trosolwg
Wedi ei ysbrydoli gan stribed comig, mae cynhyrchiad lliwgar WNO yn swynol, doniol a dwys.
Un prynhawn yn ddwfn yn y goedwig, mae'r Coedwigwr yn dod ar draws llwynoges ifanc, ac mae'n mynd â hi adref fel anifail anwes i'w deulu. Ond mae gan y greadures chwareus hon gynlluniau mwy ac mae hi'n dianc i ymrafael â'r byd ar ei thelerau ei hun. Wrth i'w hantur ddatblygu, mae holl greaduriaid y goedwig yn dod yn fyw, mewn chwedl sy'n dathlu cylch bywyd.
Wedi ei ysbrydoli gan stribed comig, mae cynhyrchiad lliwgar WNO yn swynol, doniol a dwys. Mae'n ailuno'r Cyfarwyddwr, David Pountney gyda Chyfarwyddwr Cerdd WNO, Tomáš Hanus sy'n arwain cyfuniad o gerddoriaeth werinol a cherddorfaeth soffistigedig Janáček, gan ddwyn i gof bywiogrwydd natur.
The TimesIt’s as if the music’s sheer life force bursts forth into dance, theatre and song
The Stagearguably Welsh National Opera's most beloved and enduring triumph
Cefnogir gan
Partneriaid WNO
Cylch Janáček WNO
Defnyddiol i wybod
Cenir yn Tsieceg, gydag uwchdeitlau Saesneg (a Chymraeg yng Nghaerdydd a Llandudno)
O dan 16 mlwydd oed
£5 pan fyddant gydag oedolyn â thocyn pris llawn (yn ddibynnol ar argaeledd)
16-29 mlwydd oed
£10 (yn amodol ar argaeledd). Ni fydd ar gael ar docynnau o’r ddau bris uchaf na’r pris isaf
Ffeithiau
Cyd-gynhyrchiad gyda Scottish Opera
Synopsis
Act un
Mae anifeiliaid y goedwig yn ymlacio yng ngwres y prynhawn. Ar ei ffordd adref mae’r Coedwigwr yn cymryd egwyl i gael cyntun, tra mae’r Criciedyn a’r Lindysyn yn rhoi cyngerdd. Caiff Llwynoges ifanc sy’n archwilio’r goedwig am y tro cyntaf ei dal gan y Coedwigwr, ac aiff â hi adref fel anifail anwes. Mae’n ymladd yn daer yn erbyn fflyrtian y Ci a’r poenydio cyson gan blant y Coedwigwr, ond yn y pen draw caiff ei rhwymo’n sownd. Mae’r Llwynoges yn breuddwydio am ryddid a deffroad ei synhwyrau. Daw wyneb yn wyneb â’r Coedwigwr ac mae’n llwyddo i ddianc ar ôl lladd yr ieir i gyd.
Act dau
Mae’r Llwynoges yn dychwelyd i’r goedwig ac yn cartrefu gyda’r Mochyn Daear. Yn y dafarn, caiff y Coedwigwr ei wawdio oherwydd y Llwynoges a gollodd, ac mae’n rhuthro allan i chwilio amdani. Mae’r Llwynoges yn pryfocio’r Ysgolfeistr a’r Person wrth iddynt hercian adref. Cred yr Ysgolfeistr mai ei gariad, Terynka, yw hi, ac mae’r Person yn cofio amdano’i hun yn cyfarfod â merch ifanc ddeniadol pan oedd yn fyfyriwr. Mae’r Llwynoges yn priodi’r Llwynog.
INTERVAL
Act tri
Ar ei ffordd i weld Terynka, mae Harašta, yr herwheliwr, yn dod o hyd i ysgyfarnog farw – ysgyfarnog a laddwyd gan y Llwynoges. Mae’r Coedwigwr yn ei rybuddio i beidio â herwhela ac yn gosod trap ar gyfer y Llwynoges. Ond mae’r Llwynoges a’r Llwynog yn chwarae gyda’u cenawon ac yn gwneud hwyl am ben natur ddilun y Coedwigwr. Mae Harašta yn dychwelyd i nôl yr ysgyfarnog. Ar y cychwyn, mae’r Llwynoges yn gyfrwysach nag ef, ond caiff ei saethu a'i lladd. Mae’r Ysgolfeistr yn edifarhau’n fawr ei fod wedi colli ei gyfle gyda Terynka – mae hi i fod i briodi Harašta heddiw. Fodd bynnag, mae’r Coedwigwr yn derbyn ei fod yn heneiddio gan fynd am dro hamddenol a thawel trwy’r goedwig. Mae’n cysgu ac yn breuddwydio am y Llwynoges. Mae broga’n ei atgoffa o gylch anochel natur, ac mae’n parhau gyda’i gwsg, yn fodlon ei fyd.